MEMORANDWM CYDSYNIAD OFFERYN STATUDOL

 

 

GORCHYMYN DIWYGIO DEDDFWRIAETHOL (TALIADAU GAN GYNGHORAU PLWYF, CYNGHORAU CYMUNED AC YMDDIRIEDOLWYR SIARTER) 2013

 

1.         Gosodir y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog (“OS”) 30A.2.  Mae OS 30A yn pennu bod rhaid gosod Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ac y gellir cyflwyno Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) os bydd un o Offerynau Statudol y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

 

2.         Cafodd Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Taliadau gan Gynghorau Plwyf, Cynghorau Cymuned ac Ymddiriedolwyr Siarter ei gosod ar ffurf ddrafft gerbron Senedd y DU ar 11 Tachwedd 2013 a gerbron y Cynulliad ar 12 Tachwedd. Mae'r Gorchymyn i'w weld yn:

 

The Legislative Reform (Payments by Parish Councils, Community Councils and Charter Trustees) Order 2013

 

3.         Mae Adran 11 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (LRRA 2006) yn darparu na chaiff Gorchymyn gynnwys darpariaeth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y  Cynulliad Cenedlaethol, oni bai bod y Cynulliad yn cytuno i hynny.

 

4.         Mae Adran 1 o LRRA 2006 yn galluogi darpariaeth i gael ei gwneud er mwyn dileu neu leihau beichiau sy'n effeithio’n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar unrhyw berson yn sgil unrhyw ddeddfwriaeth.  At ddibenion adran 1 ystyr  “baich” yw cost ariannol, anghyfleuster gweinyddol, rhwystr i effeithlonrwydd, cynhyrchiant, elw neu gosb, boed troseddol neu fel arall, sy'n effeithio ar gynnal unrhyw weithgarwch cyfreithiol.

 

Crynodeb o'r Gorchymyn a'i nod

 

5.         Nod y Gorchymyn yw dileu baich nad yw bellach yn gyfredol ar y cyrff yr effeithir arnynt. Byddai'r Gorchymyn yn dileu'r gofyniad i bob siec neu archeb arall ar gyfer talu arian gan gymuned plwyf a chymuned gael ei llofnodi gan ddau aelod o'r cyngor - y rheol “dau lofnod”.  Gyda dyfodiad bancio electronig credir nad yw'r gofyniad hwn yn gyfredol bellach. 

 

6.         Byddai'r Gorchymyn yn dileu'r baich diangen ar gynghorau plwyf a chymuned ac ymddiriedolwyr siarter ac yn hwyluso defnyddio dulliau bancio modern ar gyfer taliadau megis bancio electronig er mwyn sicrhau bod rheoli ariannol yn ddigonol ac yn effeithiol tra'n cynnal rheolaeth ariannol gadarn.

 

7.         Mae'r Gorchymyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru a Lloegr.

 

Darpariaeth i'w gwneud gan y Gorchymyn y ceisir cydsyniad ar ei gyfer

 

8.         Mae erthygl  2 - yn diddymu is-adran (5) o adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”).  Bydd hyn yn dileu'r gofyniad i bob siec neu archeb arall ar gyfer talu arian gan gymuned plwyf neu gymuned gael ei llofnodi gan ddau aelod o'r cyngor. Mae'r Gorchymyn hefyd yn dileu gofyniad tebyg i bob siec neu archeb arall ar gyfer talu arian gan ymddiriedolwyr siarter gael ei llofnodi gan ddau ymddiriedolwr siarter.

 

9.         Ym marn Llywodraeth Cymru mae'r gofyniad i lofnodi sieciau y darperir ar ei gyfer ar hyn o bryd o fewn adran 150(5) o Ddeddf 1972 yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y’i nodir o dan bennawd llywodraeth leol ac yn arbennig mewn perthynas â “powers and duties of local authorities and their members and officers” o dan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Manteision defnyddio'r Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol hwn

 

10.      Nid oes unrhyw gyfrwng deddfwriaethol priodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (NAW) wneud darpariaeth debyg.  Mae Adran 1 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, y gwneir y Gorchymyn yn unol â hi, yn darparu na chaiff un o Weinidogion y Goron wneud darpariaeth sy’n anelu at ddileu neu leihau unrhyw faich sy'n deillio o unrhyw ddeddfwriaeth, sy'n cynnwys yn benodol Deddfau Seneddol a Mesurau a Deddfau'r Cynulliad. Mae Adran 11 o'r Ddeddf honno'r rhag-weld yn benodol y bydd Gorchymyn o'r fath yn cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, ond dim ond gyda chytundeb y Cynulliad.  Felly credir ei bod yn briodol i’r Gorchymyn fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru a Lloegr.

 

11.      Cred Llywodraeth Cymru ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Gorchymyn hwn gan mai dyma'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur i alluogi'r darpariaethau hyn i fod yn gymwys yng Nghymru cyn gynted â phosibl ac i sicrhau cysondeb yn y darpariaethau a gymhwysir i gynghorau plwyf a chymuned ac ymddiriedolwyr siarter ledled Cymru a Lloegr fel bod baich ar yr holl gyrff hyn yn cael ei ddileu.  

 

12.      Yn achos cynghorau plwyf a chymuned, byddai’r manteision yn cynnwys symleiddio trafodion ariannol, arbed amser a gwneud taliadau electronig yn haws, gan ganiatáu mynediad i ddisgowntiau ar gyfer taliadau electronig ac osgoi taliadau banc sy'n gysylltiedig â dulliau talu blaenorol.

 

13.      Byddai cynghorau mwy yn gallu mabwysiadu dull haenog o reoli taliadau a fyddai'n gallu gwneud defnydd gwell o amser yr aelodau a gwella rheolaeth.  Ar hyn o bryd nid yw trefn o'r fath yn debygol o fod yn gyson ag adran 150(5).

 

14.     Os gwneir y Gorchymyn, caiff canllawiau eu darparu i'r cyrff yr effeithir arnynt yn y Canllawiau i Ymarferwyr sy'n cael eu paratoi a'u cyhoeddi ar y cyd gan Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol ac sydd wedi cael sêl bendith Swyddfa Archwilio Cymru.  Bydd y canllawiau hyn yn helpu cynghorau i gydymffurfio â'u dyletswyddau statudol cyffredinol i wneud trefniadau priodol ar gyfer eu materion ariannol ac i feddu ar system gadarn o reoli mewnol.  Credir bod hyn yn cynnig dull cyfartal neu well o amddiffyn cronfeydd cyhoeddus tra'n caniatáu dulliau talu modern a gweithdrefnau rheoli mwy effeithlon. 

 

15.     Ni fyddai'r Gorchymyn yn atal y trefniadau presennol rhag parhau os byddai'n well gan gyngor plwyf neu gymuned gadw'r rheol dau lofnod. Caiff fframwaith cadarn i amddiffyn cronfeydd y cynghorau ei sefydlu ar ôl y diddymiad.

 

Goblygiadau ariannol

 

16.      Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru.

 

 

 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Tachwedd 2013